Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

CELG(4)-28-13 papur 3

Dyddiad:                    24  Hydref 2013

 

Papur Tystiolaeth i'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol gan y Gweinidog Cyllid

 

Diben

 

Darparu rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i gefnogi'r gwaith o graffu ar Gyllideb Ddrafft 2014-15.

 

Cefndir

 

Cyd-destun Strategol

 

Mae'rRhaglen Lywodraethu yn nodi ymrwymiad y Llywodraeth hon i ddatblygu cymdeithas decach lle y gall pawb wneud y gorau o'u galluoedd a chyfrannu at y gymuned y maent yn byw ynddi. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i ymgorffori cyfle cyfartal a chydberthnasau da yn ei chynlluniau gwariant a'i phrosesau cyllidebol drwy gynnal Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb mewn perthynas â'i chyllideb. Mae gweithio'n effeithiol ar draws portffolio pob Gweinidog a'r sector cyhoeddus ehangach i gyflawni'r canlyniadau rydym am eu gweld ar gyfer Cymru yn hollbwysig yn yr hinsawdd economaidd gyfredol. 

 

Cynllun Cydraddoldeb Strategol - Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chynllun Cydraddoldeb Strategol ym mis Ebrill 2012, yn dilyn ymgysylltu helaeth â'r cyhoedd.   Mae'r cynllun a'r wyth Amcan Cydraddoldeb sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau a geir ynddo, yn nodi meysydd o anghydraddoldeb dwfn ac yn nodi sut rydym yn bwriadu mynd i'r afael â'r rhain er mwyn sicrhau canlyniadau gwell i bobl Cymru.  Rydym wedi sicrhau bod ein cynlluniau gwariant yn canolbwyntio nid yn unig ar bobl â nodweddion gwarchodedig yng Nghymru, ond hefyd ar sut y gallant gyfrannu at fodloni ein hamcanion o ran cydraddoldeb.    Adlewyrchwyd hyn drwy gydol yr Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb ac yn Atodiad 1 i'r Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb, a ystyriodd effaith bosibl ein cynlluniau gwariant ar y rhai â nodweddion gwarchodedig.

 

Cyd-destun Cyfreithiol

 

·         Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod Dyletswydd Cydraddoldeb Gyffredinol ar awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru i roi 'sylw dyledus' i'r angen i ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu ac erledigaeth, yn ogystal â hyrwyddo cyfle cyfartal a meithrin cydberthnasau da rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a'r rhai nad ydynt yn rhannu nodwedd warchodedig.  Mae'r Dyletswyddau Penodol, fel y'u nodir yn Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 wedi'u llunio er mwyn helpu awdurdodau i gydymffurfio a'u Dyletswydd Gyffredinol, ac maent yn cynnwys y gofyniad i asesu effeithiau posibl ar gydraddoldeb wrth i ni wneud penderfyniadau.  Mae'r Asesiad o Effaith y Gyllideb ar Gydraddoldeb yn rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru ddangos ei bod wedi rhoi 'sylw dyledus' i nodau'r Ddyletswydd Cydraddoldeb Gyffredinol.

 

·         Fel sail bellach i ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gydraddoldeb mae'r ddyletswydd o dan Adran 77 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006,  i wneud trefniadau i sicrhau bod ei swyddogaethau'n cael eu harfer, gan roi sylw dyledus i'r egwyddor y dylai fod cyfle cyfartal i bawb.

 

 

Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb a'r Gyllideb

 

·         Llywodraeth Cymru oedd Llywodraeth gyntaf y DU i asesu effaith ei chynigion gwariant a, thros gyfnod yr Adolygiad o Wariant, mae wedi parhau i edrych ar sut y gall wella ei hymagwedd at asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb. 

 

·         Ar ddechrau'r Adolygiad o Wariant yn 2010, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru asesiad cynhwysfawr o effaith ei chynlluniau gwariant ynghyd â Chyllideb Derfynol 2011-12 ar gydraddoldeb.  Mae llawer o'r gwaith hwn wedi parhau i fod yn berthnasol dros gyfnod yr Adolygiad o Wariant.  Yng ngoleuni hyn, nid yw Llywodraeth Cymru wedi ailadrodd yr asesiad manwl flwyddyn ar ôl blwyddyn ond mae wedi ceisio ategu'r gwaith hwn drwy asesu'r effaith yn y meysydd hynny lle y gwnaed newidiadau i'n cynlluniau gwariant. 

 

·         Ar gyfer Cyllideb Ddrafft 2013-14, cymerodd Llywodraeth Cymru gamau pellach i wella ystyriaethau ei chynlluniau gwariant o ran cydraddoldeb drwy:

 

Cyllideb Ddrafft 2014-15 

 

·         Cyhoeddwyd yr Asesiad o Effaith Cyllideb Ddrafft 2014-15 ar Gydraddoldeb ar 8 Hydref fel dogfen unigol.  Dyma bedwerydd Asesiad Llywodraeth Cymru o Effaith ei Chyllideb Ddrafft ar Gydraddoldeb ac rydym wedi adeiladu ar y camau a gymerwyd yng Nghyllideb Ddrafft 2013-14.

 

·         Lluniwyd Cyllideb Ddrafft 2014-15 ar dair thema gyllidebol Twf a Swyddi; Cyrhaeddiad Addysgol; a Chefnogi Plant, Teuluoedd a Chymunedau Difreintiedig.  Mae'r ymagwedd thematig hon yn ymateb uniongyrchol i'r argymhelliad yn adroddiad Ymchwiliad Gwerthfawrogol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ei hasesiadau ar y penderfyniadau strategol a wnaed.  

 

·         Rydym hefyd wedi gweithio i ymgorffori ystyriaethau cydraddoldeb ar gam cynnar er mwyn sicrhau bod ein penderfyniadau ar wariant yn cael eu llywio gan ystyriaethau cydraddoldeb o'r cychwyn cyntaf ac yn cael eu dylanwadu ganddynt.  Mae'r Asesiad o Effaith y gyllideb ar Gydraddoldeb yn nodi'n fwy manwl sut rydym wedi ymgorffori ystyriaethau cydraddoldeb yn y gwaith o ddatblygu ein cynigion o ran y gyllideb ond mae enghreifftiau allweddol yn cynnwys ein penderfyniad i:

 

o   barhau i gefnogi ein buddiannau cyffredinol, sy'n fuddsoddiad yng ngwead cymdeithas ac sy'n ymyriadau allweddol o ran cefnogi pobl sy'n agored i niwed.  Er nad yw'r math hwn o wariant yn canolbwyntio ar helpu grwpiau penodol o fewn cymdeithas, mae wedi'i anelu at helpu pawb sy'n wynebu caledi a phwysau ariannol yng Nghymru, sy'n cynyddu yn yr hinsawdd economaidd gyfredol, a chydnabyddwn hynny.

 

o   diogelu arian ar gyfer ein Hymrwymiadau Pump am Ddyfodol Tecach, gan gynnwys Twf Swyddi Cymru, sy'n helpu i leihau nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant a Swyddogion Cymorth Cymunedol, lle rydym yn cynnal ein hymrwymiad i roi 500 o swyddogion cymorth cymunedol ar y rhawd a'u cadw yno.

 

o   darparu arian ychwanegol o £4.9m i gefnogi'r gwaith o weithredu elfen digartrefedd y Bil Tai.  Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod pobl ledled Cymru yn gallu manteisio ar dai boddhaol, fforddiadwy a bod pobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref yn cael y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt, gan sicrhau effeithiau buddiol i'r rheini mewn grwpiau economaidd-gymdeithasol is a fydd yn cynnwys nifer fwy yn ôl cyfran o nodweddion gwarchodedig penodol. 

 

·         Mae'r dull hwn yn golygu y caiff ystyriaethau cydraddoldeb eu cynnwys yn y gwaith o ddatblygu ein cynlluniau gwariant yn hytrach na'u hystyried ar ddiwedd y broses. 

 

Ymateb i gwestiynau penodol a ofynnwyd gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

 

Adolygiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

 

·         Ym mis Hydref 2012, cynhaliodd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ymchwiliad i'r ystyriaethau cydraddoldeb yng nghyllideb Llywodraeth Cymru.  Cydnabu'r Pwyllgor y gwelliannau a wnaed eisoes i Asesiad Llywodraeth Cymru o Effaith y Gyllideb ar Gydraddoldeb, a nododd rai argymhellion pellach.  Mae canfyddiadau ac argymhellion y Pwyllgor wedi llywio a gwella'r gwaith o ddatblygu'r Asesiad o Effaith Cyllideb Ddrafft 2014-15 ar Gydraddoldeb.  

 

·         Rhoddwyd ystyriaeth i'r argymhellion hyn, a nodir y canlyniad yn Atodiad A. 

 

Ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu

 

Diwygio Lles

 

·         Wrth fynd i'r afael â'r her o reoli cyllideb sy'n lleihau mewn termau real, rhaid i ni hefyd ystyried her y penderfyniadau a wneir mewn meysydd annatganoledig.  Yr un pwysicaf yw agenda Diwygio Lles Llywodraeth y DU, lle mae Llywodraeth y DU yn bwriadu gwneud gostyngiadau o tua £21bn yn 2014-15.

 

·         Darparodd yr Asesiad o Effaith Cyllideb 2012-13 ar Gydraddoldeb asesiad o'r newidiadau arfaethedig i'r system treth a budd-daliadau gan Lywodraeth y DU. Nododd y dadansoddiad, gan fod y system treth a budd-daliadau yn annatganoledig, fod Llywodraeth Cymru wedi ei chyfyngu gan y penderfyniadau a wneir gan Lywodraeth y DU.

 

·         Comisiynodd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gweinidogol Llywodraeth Cymru ar Ddiwygio Lles raglen ymchwil mewn tri cham i asesu effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU yng Nghymru.  Mae tri cham yr ymchwil hon wedi'u cyhoeddi, a chafodd y cam olaf (y trydydd) ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2013.  Roedd yr ymchwil hon yn rhan o'r dystiolaeth a ystyriwyd gan Weinidogion wrth ystyried yr Asesiadau o Effaith eu cynlluniau gwariant ar Gydraddoldeb.

 

·         Oherwydd mwy o ddibyniaeth ar fudd-daliadau, bydd y diwygiadau lles hyn yn effeithio'n fwy ar Gymru na'r DU yn ei chyfanrwydd.  Dengys tystiolaeth y bydd y newidiadau i fudd-daliadau lles yn cael effaith negyddol ar lawer o bobl anabl yng Nghymru.  O gofio'r gyfran uchel o hawlwyr budd-dal anabledd yng Nghymru, mae'n debygol y caiff y diwygiadau lles effaith anghymesur.  Mae effaith diwygiadau lles yng Nghymru i bobl anabl y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru o hyd, a chyfyngedig yw ein gallu i leihau unrhyw effeithiau sylweddol.

 

·         Eto i gyd, ystyriwyd effeithiau'r diwygiadau hyn ar gydraddoldeb ar gyfer dinasyddion yng Nghymru.  Lansiodd Llywodraeth Cymru ei Fframwaith Gweithredu ar gyfer Byw'n Annibynnol fis diwethaf gyda ffocws ar gydweithio i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i bobl anabl, gan eu galluogi i ymarfer dewis a rheolaeth yn eu bywydau bob dydd.   

 

Grŵp Cynghorol y Gyllideb ar Gydraddoldeb

 

·         Yn yr Asesiad o Effaith Cyllideb Ddrafft 2013-14 ar Gydraddoldeb, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i sefydlu Grŵp Cynghorol y Gyllideb ar Gydraddoldeb o fewn Llywodraeth Cymru (BAGE).    Mae hwn bellach wedi ei sefydlu ac yn cynnwys nifer o gynrychiolwyr o sefydliadau cydraddoldeb yn y sector gwirfoddol, Llywodraeth Cymru a chynghorydd academaidd a benodwyd gan Weinidogion Cymru.  Arweinir y grŵp gan y Gweinidog Cyllid a'r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, gan ddangos ymrwymiad a rennir i gydraddoldeb.

 

·         Rôl y grŵp hwn yw rhoi cyngor a rhannu arbenigedd ac arfer gorau o ran materion cydraddoldeb a fydd yn eu tro yn cefnogi'r broses o wella'r Asesiad o Effaith Cyllideb Llywodraeth Cymru ar Gydraddoldeb yn barhaus.  Ffocws allweddol trafodaethau a gwaith y grŵp hyd yma fu meithrin dealltwriaeth o broses Cyllideb Llywodraeth Cymru ei hun, yr amgylchedd economaidd presennol, a'r ffordd y mae'r rhain yn cyfyngu ar ein hystyriaethau ynglŷn â chydraddoldeb.  Mae hyn wedi arwain at ffocws pendant ar bwysigrwydd creu sylfaen dystiolaeth gadarn, a sicrhau yr ymgysylltir â phobl sydd â nodweddion gwarchodedig ledled Cymru, fel y gellir nodi a deall natur y materion sylfaenol sy'n ymwneud â chydraddoldeb.  Mae ymdriniaeth y grŵp yn eang ac mae ei ystyriaethau yn ehangach eu cwmpas na Deddf Cydraddoldeb 2010; mae hefyd yn anelu at sicrhau cysondeb rhwng penderfyniadau ac ystyriaethau cydraddoldeb a Chynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer Trechu Tlodi.

 

·         Mae'r grŵp bellach wedi cyfarfod deirgwaith, ac er ei fod ar gam cynnar, mae eisoes wedi datblygu rhai syniadau ac awgrymiadau blaengar ynglŷn â'r broses asesu ac yn darparu fforwm ar gyfer cynnwys ystyriaethau cydraddoldeb y Gyllideb ar lefel strategol.

 

·         Mae'r grŵp hefyd wedi cydnabod ei rôl o ran craffu ar yr asesiad cyfredol o'r effaith a gynhaliwyd, ac o ran llywio gwelliannau hirdymor strategol i ystyriaethau cydraddoldeb ein penderfyniadau ar wariant yn y dyfodol.  Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud pob ymdrech i wella'r Asesiad o Effaith y Gyllideb Ddrafft ar Gydraddoldeb o flwyddyn i flwyddyn gyda chymorth y grŵp. 

 

Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol - Ymchwiliad Gwerthfawrogol

 

·         Y llynedd, gwnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymiad i weithio gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru i gynnal Ymchwiliad Gwerthfawrogol o'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i gynnal yr Asesiad o Effaith y Gyllideb Ddrafft ar Gydraddoldeb. 

 

·         Cyhoeddwyd yr Adroddiad ar yr Ymchwiliad Gwerthfawrogol ym mis Tachwedd 2012. Tynnodd sylw at ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella'r Asesiad o Effaith ei Chyllideb ar Gydraddoldeb a gwnaeth sylwadau cadarnhaol ynglŷn â'r cynnydd a wnaed eisoes.  Roedd canfyddiadau'r Ymchwiliad Gwerthfawrogol yn cynnwys cyfres o argymhellion i wella proses yr Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb ymhellach.

 

·         Mae'r ffordd yr ydym wedi ymateb i'r argymhellion hyn wedi'i nodi yn Atodiad 3 i'r Asesiad o Effaith y Gyllideb Ddrafft ar Gydraddoldeb.  Roedd sawl un o'r argymhellion o natur weithredol, a gweithredwyd ar y rhain a chânt eu cyflwyno yn y broses barhaus o wella'r Asesiad o Effaith y Gyllideb Ddrafft ar Gydraddoldeb dros y blynyddoedd i ddod.

 

Gwariant Ataliol

 

·         Gwyddom fod ymyriadau y gallwn eu gwneud nawr a fydd yn osgoi pwysau ar wasanaethau cyhoeddus eraill yn y dyfodol.  Ar adeg o leihau cyllidebau, mae hyn yn bwysicach nag erioed.  Dyna pam mae ymrwymiad i atal gwariant yn sail i Gyllideb Ddrafft 2014-15.  Mae hyn hefyd yn adlewyrchu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ymgorffori egwyddor Datblygu Cynaliadwy yn ein prosesau gwneud polisïau a phenderfyniadau.

 

·         Mae hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol a chyfle cyfartal yn elfennau allweddol o ran sicrhau gwell ansawdd bywyd i'n cenhedlaeth ni a chenedlaethau i ddod.  Mae enghreiftiau o'r modd yr ydym wedi ystyried gwariant ataliol yn cynnwys ein penderfyniad i:

 

o   ddiogelu a chynyddu arian ar gyfer y GIG - rydym yn dyrannu arian ychwanegol o £420m dros y ddwy flynedd nesaf ar gyfer y GIG yng Nghymru.  Mae gwariant ar iechyd yn hollbwysig i iechyd a lles pobl Cymru yn y tymor hwy.  Yn unol ag egwyddorion datblygu cynaliadwy a gwariant ataliol, cydnabyddwn ei bod yn well cadw pobl yn ffit ac yn iach na defnyddio adnoddau i ddatrys problemau y gellir eu hosgoi. 

 

o   cynyddu arian ar gyfer y Grant Gwasanaethau Cam-drin Domestig i £4m yn 2014-15, sy'n cefnogi prosiectau i wneud dioddefwyr cam-drin domestig a'u plant yn fwy diogel, a gwneud iddynt deimlo'n fwy diogel; er enghraifft, drwy ariannu Llinell Gymorth Cymru Gyfan a darparu adnoddau i wella diogelwch eu cartrefi.  Drwy hyn rydym yn ymrwymedig i gefnogi dioddefwyr a lleihau cyfraddau cam-drin domestig a thrais yn erbyn menywod a thorri cylch cam-drin o fewn teuluoedd.

 

o   parhau i fuddsoddi mewn Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid gyda ffocws ar ymyrraeth gynnar ac atal.  Cynyddodd y gyllideb ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid 8% yn 2013-14 i ddod â'r gyllideb i £5.2m, ac fe'i dyrannwyd i'r Gronfa Atal Troseddau Ieuenctid a dwy fenter gyda Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru i dreialu prosiectau adsefydlu yn y gogledd a'r de a phrosiect rheoli achosion.  Ar gyfer 2014-15, caiff y gyllideb ei chynnal ar y lefel hon.  Mae'r gronfa hon yn canolbwyntio ar ddulliau amgen yn lle'r ddalfa a ffyrdd o atal plant rhag dod yn rhan o'r system cyfiawnder ieuenctid yn y lle cyntaf.  Y nod yw lleihau nifer y bobl sy'n dod yn rhan o'r system cyfiawnder ieuenctid pan gânt eu hanfon i'r ddalfa am y tro cyntaf drwy gyfrwng dull cyfiawnder adferol arloesol yn lle cyhuddiad gan yr heddlu, ac mae'n darparu cyfleoedd i'r rhai yr effeithir yn uniongyrchol arnynt gan drosedd i gyfathrebu a chytuno ar sut i ddelio â'r drosedd a'i chanlyniadau.

 

·         Rydym wedi ychwanegu at yr Asesiad o Effaith y Gyllideb Ddrafft ar Gydraddoldeb eleni drwy gynnwys trosolwg o'r effeithiau cronnol posibl y gall ein cynlluniau gwariant eu cael ar gyfer pob un o'r nodweddion gwarchodedig yng Nghymru i gefnogi ffocws ar atal problemau rhag codi.  Rydym yn ymwybodol bod y dystiolaeth ynghylch nodweddion gwarchodedig penodol yn gyfyngedig iawn, sy'n ei gwneud hi'n anodd iawn asesu effaith bosibl ein penderfyniadau ar wariant ar y grwpiau gwarchodedig hyn yn gywir. Bydd ein hasesiad parhaus o bob un o'n polisïau a'n strategaethau a'n hymgysylltiad â'r grwpiau gwarchodedig hyn yn helpu i wella sail y dystiolaeth, gan atgyfnerthu ein hasesiadau yn y dyfodol a llywio ein penderfyniadau ar wariant yn y dyfodol..

 

·         Er mwyn lleihau anghydraddoldebau rhwng grwpiau o bobl, mae Cynllun Cydraddoldeb Strategol Llywodraeth Cymru yn nodi wyth Amcan Cydraddoldeb sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau.   Cefnogir yr amcanion cydraddoldeb hyn gan gamau gweithredu ym mhortffolio pob Gweinidog ac fe'u datblygwyd yn dilyn ymgysylltu helaeth.  Wrth asesu effaith ein cynlluniau gwariant rydym wedi ystyried sut y byddant yn helpu i fodloni ein Hamcanion Cydraddoldeb, gan helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau cyfredol ac atal anghydraddoldebau yn y dyfodol.  Mae hwn yn gynllun 4 blynedd, a chaiff ei gynnydd ei fonitro a chyflwynir adroddiad arno bob blwyddyn.